P-04-355 Cymru nid Wales
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar yr enw “Wales” a “Welsh” yn swyddogol. Mae Wales yn tarddu o’r gair Eingl-Sacsonaidd am rywun estron (“Waelisc”). Yn ein barn ni, mae’r enw hwn yn sarhaus, a dylid galw ein cenedl yn ôl ei henw gwreiddiol, sef ‘Cymru’ (gwlad y cymrodyr neu gydwladwyr). Ar ôl i ni gael ein galw’n estroniaid am dros fil o flynyddoedd, teimlwn ei bod yn amser cael gwared ar yr enw diraddiol hwn.
Prif ddeisebydd: Dennis Morris
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 10 Ionawr 2012
Nifer y deisebwyr: 119